Mae Castell Glandyfi wedi’i leoli uwchlaw’r A487. Os ydych chi’n teithio o Fachynlleth mae’r troad ar y chwith ger Glandyfi, neu ar y dde i’r rhai sy’n teithio o gyfeiriad Aberystwyth. O’r arwydd ar y brif ffordd, dilynwch y ffordd breifat (cadwch i’r chwith wrth ddod i’r fforch yn y ffordd). Arhoswch ar y ffordd yma nes y byddwch yn gweld y Castell. Gyrrwch heibio’r Castell ac ymlaen i’r prif faes parcio ar y chwith.